Diolch i estyniad mewn nawdd gan Lywodraeth Cymru, mae prosiect benthyg e-feiciau cymunedol ߣߣƵ Cymru wedi cael ei ymestyn hyd at 2024.
Mae E-Symud yn cynnig y cyfle i bobl ar draws Cymru i fenthyg e-feic am ddim hyd at bedair wythnos. Llun gan: Jonathan Bewley
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo estyniad nawdd er mwyn sicrhau bydd E-Symud, prosiect e-feiciau cymunedol, yn cael ei ymestyn hyd at 2024.
Prosiect a darparir gan ߣߣƵ Cymru sy’n galluogi pobl ar draws Cymru i fenthyg e-feic am ddim yw E-Symud.
Amcan y prosiect yw i wneud e-feiciau’n hygyrch i bobl, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, ac i ddangos bod opsiynau teithio cynaliadwy ar gael.
Dewis arall o deithio iachach, mwy fforddiadwy go iawn
“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o bobl i gyfnewid eu car am feic ar gyfer teithiau byrrach,” medd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth.
“Mae beicio’n well i’r amgylchedd ac mae hefyd yn llawer rhatach na rhedeg car ac yn wych i’ch iechyd meddwl a chorfforol hefyd.”
Yn symud mewn i’w ail flwyddyn, mae E-Symud yn cael ei weithredu mewn pum gwahanol leoliad yng Nghymru: Abertawe, Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd, a’r Rhyl.
Cafodd ei amcangyfrif arbedodd pobl a defnyddiodd y prosiect yn y flwyddyn gyntaf 600kg o CO2.
Canfu hefyd cafodd E-Symud effeithiau positif ar ymdeimlad pobl o’u hiechyd a llesiant.
Teimlodd 70% o bobl yn iachach ar ôl benthyg a defnyddio e-feic, teimlodd 76% o bobl gwellodd eu lles.
Newid go iawn ar gyfer pobl a busnesau ar draws Cymru
Yn ogystal ag e-feiciau ar gael i unigolion, mae E-Symud hefyd yn cynnig e-feiciau cargo i fusnesau a mudiadau cymunedol.
Mae’r prosiect wedi gweld llwyth o wahanol enghreifftiau o fusnesau’n cymryd mantais o’r benthyciadau di-bris – becws cymunedol yn Y Rhyl, garddwr yn Aberystwyth, a gwely a brecwast ym Mhowys.
Mae nifer o bobl sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi trafod sut mae’r prosiect wedi helpu newid eu hymddygiad teithio.
Mae Gemma, athro o’r Barri, wedi sôn am sut wnaeth benthyg e-feic , a’r effaith cafwyd ar ei theulu.
Mae'r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru'n ceisio dangos sut gall e-feiciau cynnig modd wirioneddol o drafnidiaeth yng Nghymru. Llun gan: Jonathan Bewley
Parhau’r gwaith ymhlith cymunedau ar draws Cymru
Un o’r busnesau diweddaraf i elwa o E-Symud yw , sydd wedi defnyddio e-feic cargo i ddosbarthu bara i’r gymuned.
“Mae hwn yn ffordd wych o gael ein bara allan i’r bobl sydd efallai methu cyrraedd y becws am ba bynnag reswm,” dwedodd Chris Cundill, Cyfarwyddwr y Cwmni.
“’Da ni wrth ein boddau bod lot o gynnwrf yn ei gylch yn barod.”
Dwedodd Liz Rees, Rheolwr Rhaglen yn ߣߣƵ Cymru: “Rydym yn hapus iawn i dderbyn blwyddyn arall o gyllid ar gyfer E-Symud.”
“Ers 2021, mae E-Symud wedi helpu pobl mewn pum cymuned ddifreintiedig ar draws Cymru i gael mynediad at e-feiciau a’u benthyca am ddim.”
“Mae hyn wedi golygu bod pobl sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus wael, diffyg mynediad at geir, a chyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran ac iechyd wedi gallu teithio.”