Rydym yn galw ar lywodraeth leol i gyflewni arweinyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau adferiad cynaliadwy ar ôl y pandemig sy’n deg i bob person yng Nghymru.
Darllenwch gofynion ein maniffesto.Agoriad llygaid yw’r pandemig sydd wedi amlygu ac ehangu’r anghyfiawnder sy’n bodoli rhwng pobl a llefydd.
Dyma pam rydym yn gal war lywodraeth leol i gyflenwi arwenyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau adferiad cynaliadwy sy’n deg i bob person yng Nghymru.
Mae yna gyfle unigryw i ganolbwyntio ar deithio llesol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gwasanaethu defnyddwyr oll yn gyfiawn, ac i ddarparu Cymru Yfory, i Bawb.
Cyn Etholiadau Lleol Cymraeg 2022, mae ߣߣÊÓƵ Cymru wedi gosod ei phedwar gofynion clir ar gyfer ymgeiswyr cynghorol a fydd yn ategu adferiad y DU, creu etifeddiaeth aruthrol ar gyfer cenhedloedd y dyfodol a’i wneud yn haws i bawb cerdded, olwyno a beicio.
Mae cynghorau Cymraeg wedi ymateb i bryderon pobl ynglŷn â cherbydau anghyfreithlon yn teithio ar balmantau a pharciau gan osod rhwystrau corfforol.
Ond yn aml mae’r rhwystrau yma’n atal trafnidiaeth ddilys – rhieni yn gwthio bygis, defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudol, neu bobl ar feiciau neu dreiciau sy’n lletach neu’n hirach na’r meintiau arferol.
Mae 1,500 o rwystrau’n parhau i fodoli ar led Cymru.
Gadewch i ni roi’r lle a’r cyfle i bobl symud gan waredu neu ailgynllunio pob rhwystr cyfyngol ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Ìý
Bydd rhwydweithiau deniadol beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn galluogi pobl i gyrraedd ardaloedd eraill.
Mae cymdogaethau 20-munud yn cefnogi datblygu lleol, y strydoedd mawr, swyddi a’r economi lleol wrth leihau tlodi trafnidiaeth ac ynysiad.
Mae llawer o bobl ar draws Cymru wedi bod yn fyw yn llawer mwy lleol ers y cyfnod clo, ond yn rhy aml mae pobl wedi’u hynysu.
Dylai pawb gallu cyrraedd gwasanaethau angenrheidiol, mannau gwyrdd a chysylltu ag eraill, heb ots am ei gefndir demograffaidd.
Ìý
Mae beicio’n wych ar gyfer plant:
Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael mynediad i feiciau, ac yn teimlo’n hyderus wrth yrru nhw, er mwyn iddynt elwa o’r manteision yma.
Mae beicio’n datblygu sgiliau ac yn cyddu hyder plant ar yr hewl.
Ìý
Y modd gorau i lwyddo wrth annog cerdded a beicio yw sicrhau bod ein hewlydd, strydoedd a mannau cyhoeddus yn cael eu blaenoriaethu fel llefydd ymhle gall pobl o bob oedran a gallu symud o gwmpas yn gyfleus, yn hyderus ac yn ddiogel heb gar.
Gall llwybrau mewn llefydd da, wedi’ seilio ar ymatebion Mapio Llwybrau Teithio Llesol, helpu i leihau annhegwch cymdetihasol gan gynyddu mynediad i swyddi, addysg a gwasanaethau, wrth wella iechyd a chynhwysiad cymdeithasol.